Ysbyty Calon y Ddraig

Ysbyty Calon Y Ddraig
Mathysbyty, cyn ysbyty Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaY Gofid Mawr (COVID-19) yng Nghymru Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 11 Ebrill 2020 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadStadiwm y Mileniwm Edit this on Wikidata
SirDinas a Sir Caerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.4781°N 3.1825°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganBwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro Edit this on Wikidata
Map

Ysbyty dros dro yng Nghaerdydd oedd Ysbyty Calon y Ddraig. Roedd yr ysbyty maes wedi'i leoli yn Stadiwm y Principality ac fe'i agorwyd ar 11 Ebrill 2020. Fe'i godwyd mewn ymateb i'r pandemig coronafirws er mwyn darparu gwelyau ar gyfer cleifion sy'n gwella, gan warchod gwelyau prin yn y prif ysbytai ar gyfer achosion mwy difrifol. Derbyniodd yr ysbyty ei enw yn dilyn cynigion gan aelodau'r cyhoedd.[1] Fe’i hagorwyd yn swyddogol ddydd Sul y Pasg 2020.

O ran y nifer o welyau, dyma'r ysbyty mwyaf yng Nghymru a'r ail fwyaf yn y DU.[2] Agorwyd yr ysbyty ar 11 Ebrill 2020 gyda lle ar gyfer 300 gwely gyda lle i ehangu i 2,000 o welyau.[3]

Ar 5 Mehefin 2020 symudwyd y cleifion a staff i ysbytai eraill. Ar ei uchaf, roedd 34 claf yn cael eu trin yno. Y disgwyl oedd byddai'r ysbyty maes yn aros ar gael rhag ofn bydd ail don o COVID-19 yn taro.[4]

Ym mis Medi 2020 cyhoeddwyd y byddai'r ysbyty dros dro yn cael ei ddadgomisiynu erbyn diwedd Hydref a dechrau Tachwedd.[5]

  1. "Agor 'Ysbyty Calon y Ddraig' yn Stadiwm Principality". BBC Cymru Fyw. 9 Ebrill 2020. Cyrchwyd 14 Ebrill 2020.
  2. "Coronavirus: Principality Stadium hospital taking shape". BBC News. 9 April 2020. Cyrchwyd 9 April 2020.
  3. https://twitter.com/heartwalesnews/status/1249744271470706689
  4. Principality Stadium emptied of coronavirus patients as field hospital stops admitting people and staff are redeployed (en) , WalesOnline, 6 Mehefin 2020.
  5. Dadgomisiynu ysbyty dros dro yn Stadiwm Principality , BBC Cymru Fyw, 3 Medi 2020.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy